
Adeiladwyd Melin Bompren ger Cei Newydd yng Ngheredigion ym 1852-53. Yn un pen o'r felin mae odyn dau lawr a ddefnyddiwyd i sychu ceirch; roedd hyn yn angenrheidiol oherwydd yr hinsawdd laith. Caiff ei bweru gan olwyn ddŵr haearn dros y rhod sy'n rhedeg dau bâr o feini melin; pâr o feini Cymreig i falu ceirch, barlys neu fwyd anifeiliaid, a phâr o feini garwedd Ffrengig i falu gwenith i gynhyrchu blawd i wneud bara. Mae'r olwyn ddŵr yn gyrru teclyn sy'n codi sachau yd i'w storio ar y llawr uchaf hefyd. Cyn ei defnyddio yn y felin, bu'r echel dderw'n siafft syth mewn melin wynt yng Nghei Newydd a ddymchwelwyd ym 1852.
Daeth cyfnod gweithredol y felin i ben ym 1957 ac fe'i datgymalwyd a'i symud i Sain Ffagan ym 1970. Cafodd ei hailadeiladu a'i hagor i'r cyhoedd ym 1988. Bellach mae'n weithredol ac mae'r blawd ar werth yn y felin.
i'r brigMelin nesaf:
Melin Lifio Ty'n Rhos
Tudalen gynt: Sain Ffagan
Gwybodaeth ynglŷn ag
Ymweld â'r Amgueddfa