Cymdeithas Melinau Cymru • Welsh Mills Society
 Sain Ffagan 

Tanerdy Rhaeadr Gwy, Sain Ffagan

Olwyn ddŵr Tanerdy Rhaeadr

Hanes

Cyfadeiladau'r Tanerdy o'r 18fed ganrif yn Rhaeadr, Powys, oedd y tanerdy gweithredol olaf yng Nghymru. Roedd yn arbenigo mewn cynhyrchu lledr trwm ar gyfer esgidiau a chyfrwyon ceffylau.

Rhisgl coed derw oedd y prif gynhwysyn, a châi ei storio a'i falu'n bowdr mewn ysgubor ag olwyn ddŵr haearn dros y rhod. Câi'r crwyn eu socian mewn pyllau oedd yn cynnwys toddyddion mwyfwy cryf, cyn cael eu sgwrio ar y bwrdd carreg. Yna sychwyd hwy a'u rholio'n fflat. Byddai'r broses gyfan yn para deunaw mis.

Symudwyd y cyfadeiladau i'r Amgueddfa ym 1962, ac fe'u hagorwyd i'r cyhoedd ym 1968. Atgyweiriwyd ac ailosodwyd yr olwyn ddŵr yn ddiweddar (2006/07).

i'r brig

Melin nesaf: Melin Wlân Esgair Moel
Melin gynt: Melin Lifio Ty'n Rhos
Gwybodaeth ynglŷn ag Ymweld â'r Amgueddfa

i'r brig
WMS Logo

 Melinau ar agor 
 Sain Ffagan 
Melin Bompren
Melin Lifio Ty'n Rhos

Tanerdy Rhaeadr Gwy
ar y dudalen hon -
Hanes
i'r brig

Melin Wlân Esgair Moel Melin a Gwasg Seidr Melin Eithin

i'r brig

rhyader.m0c.html 2007/09/02 _____