
Sefydlwyd melin lifio yn Llanddewibrefi, Ceredigion, ym 1868, ac adeiladwyd
yr adeilad hwn er mwyn cynnwys llif gron newydd a bwerwyd â dŵr ym 1892.
Byddai olwyn ddŵr haearn dros y rhod wedi costio £15, ond yn ystod y 1930au
cynnar gosodwyd hen injan car Ford Model-T fel ffynhonnell arall o bwer.
Roedd John Williams a'i feibion, perchnogion y busnes, yn uchel eu parch fel seiri a gwneuthurwyr celfi, certi a wagenni o safon uchel. Ychwanegwyd siop baent a arbenigai mewn llythrennu a chwistrellu cerbydau masnachol yn fuan wedi hynny, yn ogystal â phwmp petrol i wasanaethu'r nifer cynyddol o gwsmeriaid oedd yn berchen ar geir.
Symudodd y felin i'r amgueddfa yn yr 1980au hwyr, gan agor i'r cyhoedd ym 1997.
i'r brig
Melin nesaf:
Tanerdy Rhaeadr Gwy
Melin gynt: Melin Bompren
Gwybodaeth ynglŷn ag
Ymweld â'r Amgueddfa